Manylion y Cynllun

Pwrpas ein Grantiau Gweithdy Ymchwil ydy hwyluso rhyngweithio deallusol a chreadigol a phartneriaeth rhwng ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau ac o amrywiaeth o sefydliadau, o fewn y gymuned academaidd, y sectorau cyhoeddus a phreifat, a’r trydydd sector.

Bwriad y grantiau yw annog a chefnogi Gweithdy neu gyfres o Weithdai sy’n anelu at gynhyrchu gweithgareddau ymchwil newydd ac arloesol. Dylai’r gweithdai hyn arwain at ddatblygu rhwydweithiau neu bartneriaethau newydd ac agendâu ymchwil newydd – megis, cysyniad ar gyfer cynnig prosiect grant yn yr ardal a archwiliwyd. 

Ni fyddai Gweithdy sy’n rhannu ymchwil sydd wedi’i chwblhau neu sy’n bodoli eisoes yn gymwys o dan y cynllun hwn. Nid yw’r grantiau ychwaith yn cynnwys gweithgareddau a fyddai wedi digwydd beth bynnag (er enghraifft, rhagamcaniad o hoff gynhadledd bresennol).

Yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer grant unrhyw brosiect yw £1,000 fesul prosiect am gyfnod o 3-4 mis. 

O bryd i’w gilydd byddwn yn hysbysebu Grantiau Gweithdai Ymchwil a ariennir gan ein partneriaid a allai fod o werth uwch. Bydd y grantiau hyn yn cael eu hysbysebu ochr yn ochr â’n grantiau eraill a dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb ddarllen y dogfennau canllaw sy’n gysylltiedig â phob cylch o’r cynllun yn ofalus i gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw’r amcanion?

Prif egwyddorion y cynllun ariannu yw:

  • Gweithio gyda phartneriaid allanol i gyd-gynhyrchu canlyniadau ymchwil ac i gyfnewid gwybodaeth.
  • Sicrhau bod egwyddorion ac arferion gorau mewn perthynas â gweithio rhyngddisgyblaethol yn cael eu mabwysiadu o’r cychwyn cyntaf, a chaniatáu ar gyfer datblygu partneriaethau gwirioneddol gydweithredol, a fydd yn darparu atebion i heriau cymhleth.
  • Ystyried a chyfrannu at saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Themâu

Mae’r cynllun yn gwahodd ceisiadau ar draws y themâu canlynol:

  • Astudiaethau Cymru: Ymchwil am Gymru a’i chysylltiadau â’r byd ehangach yw Astudiaethau Cymru. Dylai ymgeiswyr y ffrwd hon roi amlinelliad clir o’r modd y mae eu gweithdy’n berthnasol i gyd-destun Cymru, a sut y gallai wella’r ddealltwriaeth o faterion allweddol yn y Gymru gyfoes.
  • Y Celfyddau, Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol: Dylai ymgeiswyr roi amlinelliad clir o’r buddion a ddisgwylir yn sgil datblygu prosiectau cydweithredol newydd a’r canlyniadau a ddisgwylir yn sgil cydweithredu, e.e., a allai arwain at ddatblygu papur ymchwil neu gais am gyllid yn y dyfodol.
  • Ymchwilydd Gyrfa Cynnar (unrhyw pwnc): Dylai ymgeiswyr arweiniol amlinellu pam y maent yn ystyried eu hunain yn Ymchwilydd Gyrfa Cynnar a gwerth y gweithdy ar gyfer eu maes ymchwil a datblygiad proffesiynol.
  • Llwybrau at Heddwch: Amlinellwch sut y bydd y prosiect yn datblygu dealltwriaeth well o heddwch neu’n mynd i’r afael â materion penodol yn gysylltiedig â heddwch.

Disgwylir i ymgeiswyr roi sylw i feini prawf y thema y maent yn gwneud cais iddi yn eu cais.

Yn ogystal â’r uchod, bydd angen i ymgeiswyr amlinellu sut y byddant yn mynd i’r afael ag anghenion penodol sy’n ymwneud ag TAC, yn unol ag ymrwymiad y Gymdeithas i TAC.

Efallai y bydd themâu ychwanegol hefyd yn cael eu hysbysebu yn ystod cylchoedd penodol y cynllun a chynghorir ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y themâu hyn i ddarllen y canllawiau ar gyfer y cylch ymgeisio perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y ffrydiau hyn.

Pwy all wneud cais?

Rhaid i gynigion gynnwys dau sefydliad neu fwy.

Rhaid i Ymgeiswyr Arweiniol (y person a enwir ar y grant) fod yn gweithio i gyflogwr sydd wedi’i leoli yng Nghymru a bydd naill ai:

  • yn academydd amser llawn neu ran-amser sydd yn cael ei gyflogi gan Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru; neu
  • yn ymarferydd amser llawn neu ran-amser, neu’n aelod o staff sy’n weithgar ym maes ymchwil yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector, gydag ymrwymiad amlwg i addysgu ac ymchwil o fewn y sefydliad hwnnw.

Gall tîm y prosiect gynnwys y canlynol hefyd:

  • ymchwilwyr academaidd eraill o unrhyw ddisgyblaeth
  • ymchwilwyr y tu allan i’r byd academaidd
  • aelodau o’r cyhoedd neu grwpiau sy’n wynebu’r cyhoedd

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Ymchwilwyr yn researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk