Yr Athro Carol Featherston

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Trafnidiaeth Gynaliadwy

Arweinydd Trafnidiaeth Gynaliadwy, Prifysgol Caerdydd.

Mae’r Athro Featherston yn beiriannydd siartredig â phrofiad diwydiannol yn Airbus, ICI, a Rolls Royce ac mae hi’n Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol a’r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol. Ei harbenigedd yw dylunio ac optimeiddio strwythurau ysgafn ar gyfer y sectorau awyrofod, modurol a sifil. Mae hi’n arwain amryw o fentrau ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n canolbwyntio ar drafnidiaeth gynaliadwy ac ar ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy drydaneiddio. Hi hefyd yw Cadeirydd Grŵp Mecaneg Gymhwysol y Sefydliad Ffiseg ac mae hi’n un o lysgenhadon Fforwm Awyrofod Cymru.