Dr Dafydd Owen
Cemegydd Meddyginiaethol, Ymchwil a Datblygu Pfizer
Wedi’i hyfforddi mewn cemeg organig a meddyginiaethol, mae Dafydd Owen wedi cynnal ymchwil cyn-glinigol i ddarganfod cyffuriau moleciwl bach ers dros chwarter canrif yn Pfizer, yn y DU ac UDA. Yn ystod y pandemig, arweiniodd y broses o ddarganfod PAXLOVIS, y therapi gyntaf drwy’r geg a’r unig therapi drwy’r geg i gael cymeradwyaeth lawn yr FDA ar gyfer COVID-19. Cwblhawyd y rhaglen gyfan mewn cyn lleied â 21 mis. Cyhoeddwyd y gwaith ar glawr blaen Science ym mis Rhagfyr 2021.