Yr Athro Gwyn Thomas

Etholwyd: 2011

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Cymraeg

Yr Athro Gwyn Thomas a fu farw ar 13 Ebrill 2016 yn 79 oed oedd awdur Cymraeg mwyaf toreithiog ac amryddawn ei oes. Yn ogystal â’i waith fel ysgolhaig a beirniad llenyddol, cyfrannodd yn greadigol mewn sawl maes, yn bennaf fel bardd, ond hefyd fel dramodydd ac awdur ym myd y ffilm, radio, a theledu.

Ganed Gwyn yn Nhanygrisiau, Sir Feirionnydd yn 1936, ond yn nhref chwarelyddol gyfagos Blaenau Ffestiniog y’i magwyd. Yr oedd ei fagwraeth yno—un yr oedd i’r capel a’r diwylliant ymneilltuol ran amlwg ynddi—yn bwysig iddo. Adlewyrchwyd dylanwad y dref—ei thirwedd garw (‘breichled o dref ar asgwrn y graig’), ei chymdeithas werinol gymdogol, a lliw ei Chymraeg llafar—yn llawer o’i waith. Pwysleisiodd ei ddyled i’w fro mewn dwy gyfrol hunangofiannol gynnes, Bywyd Bach (2006) a Llyfr Gwyn (2015), ac mewn rhaglen deledu Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau a ddarlledwyd saith wythnos cyn ei farwolaeth.

Yn 1954 aeth Gwyn o Ysgol Ramadeg Ffestiniog i Goleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg yn 1957. Dyfarnwyd MA iddo yn 1961 am draethawd ymchwil ar Ellis Wynne, sail ei gyfrol awdurdodol Y Bardd Cwsg a’i Gefndir (1971). Yn 1959 aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, gan ennill gradd DPhil (1966) am draethawd ar y traddodiad barddol yng ngogledd Cymru yn yr ail ganrif ar bymtheg. Wedi blwyddyn yn athro ysgol, fe’i penodwyd yn 1963 yn Ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mangor; dyfarnwyd Cadair Bersonol iddo yn 1980, a bu’n Athro’r Gymraeg ac yn Bennaeth Adran o 1992 hyd ei ymddeoliad yn 2000. Yr oedd yn ddarlithydd difyr a phoblogaidd a’i ofal caredig am ei fyfyrwyr fel Pennaeth Adran yn adlewyrchiad o’i ddynoliaeth gynnes.

Yr oedd cyhoeddiadau niferus Gwyn fel ysgolhaig a beirniad yn cwmpasu llenyddiaeth Gymraeg o’i dechreuad hyd y cyfnod diweddar. Er iddo ymdrin â rhyddiaith Gymraeg o sawl cyfnod, ei thraddodiad barddol hen a chyfoethog oedd ei gariad cyntaf. Cyhoeddwyd ei gyfrol Y Traddodiad Barddol yn 1976, a’i hadargraffu wedyn chwe gwaith. Amlygwyd ei synwyrusrwydd barddol main yn ei fersiynau Cymraeg modern o’r hengerdd, gan ddechrau gydag Yr Aelwyd Hon (1970). Ymhoffai’n arbennig yng ngwaith Dafydd ap Gwilym, a chyhoeddodd aralleiriadau o’i waith a chyfieithiad Saesneg o’i holl gerddi, Dafydd ap Gwilym: His Poems (2001). Ei ymdriniaeth Dafydd ap Gwilym: Y Gŵr sydd yn ei Gerddi (2013) oedd ei waith ysgolheigaidd olaf. Cyfareddid Gwyn hefyd gan fyd mwy anghyffwrdd mytholeg Geltaidd, gwedd a amlygwyd yn Duwiau’r Celtiaid (1992) ac mewn ysgrifau treiddgar yn ei gyfrol feirniadol Gair am Air (2000).

Yn nhraddodiad iach yr Adran Gymraeg ym Mangor nid ysgolhaig ar gyfer ysgolheigion yn unig oedd Gwyn: anelai ei gyhoeddiadau hefyd at gynulleidfa leyg ddeallus. Mwynheai a gwerthfawrogai gynnyrch y cyfryngau diwylliannol modern, yn ffilmiau, cartwnau, a chanu pop: ef oedd yr unig ysgolhaig Cymraeg erioed i fentro cyffelybu gwyrthiau bucheddau’r saint i anturiaethau Superman a Batman! Yr oedd lledu’r adnabyddiaeth o lenyddiaeth Gymraeg yn genhadaeth angerddol ganddo. Gwedd ar wireddu hyn oedd ei fersiynau o’r Mabinogi, Culhwch ac Olwen, a Chwedl Taliesin ar gyfer plant a’r fersiynau Saesneg cyfatebol y cydweithiodd arnynt gyda Kevin Crossley-Holland. Dyfarnwyd iddo ef a’i gydweithwraig, yr arlunydd Margaret Jones, Wobr Tir na-n Og am lenyddiaeth plant deirgwaith (1989, 1993, 2004).

Er iddo gyhoeddi dramâu—rhai gwreiddiol a chyfieithiadau—barddoniaeth oedd prif gyfrwng creadigol Gwyn; cyhoeddodd 20 cyfrol o gerddi i gyd, yr olaf, Profiadau Inter Galactig, yn 2013. Cydnabuwyd ei ragoriaeth drwy ei ethol yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2006. Fel bardd yr oedd ganddo lais unigryw a’i oslef yn adleisio’i oes ei hun, nodwedd a gyfrannodd at boblogrwydd diamheuol ei ganu. Cyfunai ei ieithwedd yn aml elfennau o’r iaith lafar—gan gynnwys ‘iaith ’Stiniog’ a benthyceiriau Saesneg—â Chymraeg llenyddol cyhyrog a wreiddiwyd yng nghadernid iaith y Beibl. Mewn cerddi direidus, llawn hiwmor darluniodd yn gynnes, ond heb fod yn sentimental, ysmaldod ei blant wrth iddynt dyfu. Ond mewn gwrthgyferbyniad â’r canu domestig hwn canodd hefyd gerddi llawer mwy anghysurus. Yn ogystal â’i aelwyd ei hun a’i Flaenau hoff, crwydrodd yn ei gerddi i fannau mwy egr eu cysylltiadau fel Sobibor, Rhostir Saddleworth, a Memphis, Tennessee. Er gwaethaf ffraethineb llawer o’i gerddi, gŵr dwys a difrifol oedd Gwyn yn y bôn, a’i olygwedd yn drwyadl grefyddol, ond heb arlliw o sychdduwioldeb. Er i’w awen gofleidio’r bywyd modern yn eiddgar, yr oedd rhai agweddau arno yn ei boeni: thema amlwg yn ei farddoniaeth oedd gresyndod at barhad cyndyn hen fwystfileiddiwch dyn er gwaethaf pob cynnydd technolegol.

Yr oedd erthygl Gwyn ar ‘Lunyddiaeth’ (1977), lle pwysleisiodd yr angen i’r Gymraeg ddod i delerau â’r diwylliant gweledol poblogaidd cyfoes, yn gyfraniad o bwys i feirniadaeth ddiwylliannol Gymraeg yn y cyfnod cyn sefydlu S4C. Yn unol â’i weledigaeth, arloesodd Gwyn drwy gyfuno barddoniaeth Gymraeg a ffilm; gwaith nodedig o’r fath oedd ei gerdd deledu ‘Cadwynau yn y Meddwl’ (1981), teyrnged i Martin Luther King. Bu’n aelod blaenllaw o’r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, ac ef a sgriptiodd y ffilm arswyd ddadleuol O’r Ddaear Hen (1981) a adlewyrchai’r wedd dywyll ar hen dduwiau’r Celtiaid ac yr honnwyd iddi ddychryn plant! Derbyniodd gomisiynau gan S4C i sgriptio fersiynau wedi eu hanimeiddio o chwedlau’r Mabinogi ac o dalfyriadau o chwech o ddramâu Shakespeare, gan ymweld yn sgil hynny â stiwdio animeiddio enwog Soyuzmultfilm ym Moscow. Arloesol yng nghyd-destun meysydd llafur yr Adrannau Cymraeg oedd y cyrsiau ar ffilm y bu’n eu dysgu ym Mangor.

Nid un i ymneilltuo o fywyd cyhoeddus oedd Gwyn. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Llên Cyngor Celfyddydau Cymru, Pwyllgor Llên y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, a Phanel Llenyddol y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig. Gwasanaethodd fyd addysg fel Prif Arholwr Cymraeg Safon Uwch Cyd-bwyllgor Addysg Cymru o 1973 hyd 1993, fel Cadeirydd y Gweithgor ar y Gymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol o 1988 hyd 1990, ac fel aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o 2002 hyd 2005. Fe’i hurddwyd yn Gymrawd Er Anrhydedd o Brifysgol Bangor yn 2011 ac o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2015.

Gŵr mwyn oedd Gwyn yn ei fywyd beunyddiol, er y gallai anghyfiawnderau a ffolinebau (rhai’r byd academaidd weithiau!) ei gythruddo. Ar y meysydd chwarae hefyd pan oedd yn iau tueddai i roi heibio ei addfwynder arferol: bydd rhai o’i hen gydweithwyr ym Mangor a fu’n cydchwarae ag ef yn ei gofio fel peldroediwr ‘cyhyrog’ a bowliwr cyflym i beri arswyd!

Yng nghanol ei holl weithgarwch a’i brysurdeb yr oedd teulu Gwyn yn bopeth iddo. Cydymdeimlwn yn fawr â’i weddw Jennifer, a’i blant, Rhodri, Ceredig, a Heledd a’u teuluoedd yn eu colled a’u tristwch.

Gruffydd Aled Williams FLSW