Professor Rainald Lӧhner

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Pennaeth y Ganolfan Deinameg Hylif Gyfrifiadurol ac Athro Nodedig ar gyfer Deinameg Hylif, Prifysgol George Mason, Virginia, UDA

Prif ymchwil yr Athro Lohner yw datblygu a chymhwyso datryswyr llif yn seiliedig ar gridiau distrwythur. Mae wedi canolbwyntio ar bob agwedd ar y biblinell efelychu ac, fel arloeswr yn y maes hwn, mae ganddo hanes helaeth o gyhoeddiadau, gan gynnwys gwerslyfr ar y testun. Defnyddir y dulliau a’r codau a ddatblygwyd ledled y byd, gan gynnwys ar gyfer dylunio a dadansoddi awyrennau a dronau; llongau tanfor, cerbydau tanddwr di-griw a chludwyr awyrennau; diogelwch llysgenadaethau a swyddfeydd is-genhadon; a thargedu bynceri a thargedau uchel eu gwerth sydd wedi’u claddu’n ddwfn. Roedd ei waith, a ledaenwyd yn eang yn ystod pandemig Covid-19, hefyd yn egluro’r mecanweithiau trosglwyddo ar gyfer pathogenau yn yr aer.

 

yn ôl i'r brig