Mae ein darlith flynyddol yn cael ei chyflwyno gan Yr Athro Gareth Wyn Jones FLSW ar Awst 7, 13:30-14:30 yn y Sfferen, Y Pentref Gwyddoniaeth.
Dilema Ynni: Ein Blaenoriaethau Croes
Heb ynni ‘llithro i’r llonyddwch mawr yn ôl’ yw ffawd bod pob creadur a phob gwareiddiad.
Yn sylfaenol i hanes dynoliaeth yw’n hymdrechion i sicrhau mwy o ynni i gynnal ein holl weithgareddau gan gynnwys prosesu gwybodaeth yn ein hymennydd a’n dyfeisiadau a’n bwydo.
Ers y Chwyldro Diwydiannol a’n gallu i ffrwyno’r ynni mewn tanwydd ffosil, gwelwyd cyflymu rhyfeddol yn ein gweithgaredd a’n pŵer ac yn safon byw canran sylweddol.
All hyn barhau? Beth yw ei oblygiadau? A oes ‘drwg yn y caws’?
Bydd Yr Athro Gareth Wyn Jones yn ystyried yr heriau yn ei chyflwyniad.
Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael am y ddarlith yma. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, e-bostiwch ni ar events@lsw.wales.ac.uk, os gwelwch yn dda.