Ar-lein

Gweminar YGC: Ennill Contract Llyfr

16 Hyd, 2024:

10:00 am -

11:00 am

Mae’r awdur sydd wedi cyhoeddi llawer o lyfrau, yr Athro Neil Thompson FLSW, yn cyflwyno canllaw pwysig ar sut i gael contract llyfr. Mae’n defnyddio ei brofiad fel cynghorydd i gyhoeddwyr rhyngwladol mawr i ddarparu cyngor clir a defnyddiol ar sut i gynyddu eich siawns o berswadio cyhoeddwr i gynnig contract llyfr i chi. Mae’n sesiwn delfrydol ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar sydd â diddordeb mewn ysgrifennu un neu fwy o lyfrau mewn unrhyw ddisgyblaeth.

Mae’r Athro Neil Thompson yn awdur ac addysgwr annibynnol. Mae wedi bod yn athro llawn neu anrhydeddus mewn pum prifysgol yn y DU ac ar hyn o bryd, mae’n athro gwadd yn y Brifysgol Agored. Mae ei ddiddordebau yn cwmpasu gwaith cymdeithasol, lles yn y gweithle a rheolaeth ac arweinyddiaeth. Gallwch edrych ar ei wefan, gyda’i faniffesto clodwiw Manifesto for Making a Difference, drwy fynd i www.NeilThompson.info.