
Bydd y weminar yn cynnig trosolwg o Raglen Gyllido Horizon Europe a’r rhaglen COST sy’n rhoi dealltwriaeth glir i fynychwyr o sut i lywio’r dirwedd gyllido, yr amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i ymchwilwyr gyrfa gynnar a chyngor i’w helpu i baratoi cynigion cystadleuol i gynyddu capasiti ymchwil yng Nghymru.
Bydd Prif Ymchwilwyr profiadol o brosiectau a ariannwyd gan Horizon Europe yn cynnig awgrymiadau defnyddiol ar gyfer creu cynigion ymchwil llwyddiannus i wneud cais am grantiau’r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd a datblygu prosiectau ar y cyd. Bydd cynrychiolydd o’r rhaglen Marie Sklodowska-Curie yn cyflwyno’r cyfleoedd sydd ar gael i ymchwilwyr a bydd cynrychiolydd o’r rhaglen COST yn amlinellu COST Actions a’r cyfleoedd sydd ar gael drwy gyfrannu at yr ‘Actions’.
Fel rhan o’n nod strategol i gefnogi datblygiad proffesiynol ymchwilwyr a chynyddu capasiti ymchwil yng Nghymru, mae Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar CDdC yn trefnu’r weminar hon ar y cyd ag Addysg Uwch Cymru Brwsel.
Rydym yn hynod falch y bydd ein Cymrawd, yr Athro Yvonne McDermott Rees, yn Cadeirio’r weminar.