Colociwm Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar 2026
Prifysgol Aberystwyth | 29 a 30 Mehefin
Ymunwch â 4ydd Colocwiwm blynyddol Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 29 a 30 Mehefin 2026.
Mae’r Colocwiwm YGG yn dwyn ynghyd ymchwilwyr o bob cwr o Gymru a phob disgyblaeth am ddau hanner diwrnod o rwydweithio, datblygiad personol, a chydweithrediad. Mae’n cynnig lleoliad rhyngddisgyblaethol a chefnogol i rannu syniadau ymchwil, cael adborth cymheiriaid, archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithrediad yn y dyfodol, a datblygu sgiliau sy’n cefnogi gyrfaoedd ymchwil.
Bydd y rhaglen, sydd wedi’i chynllunio mewn partneriaeth â’r tîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr, yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau amrywiol y rhai sy’n gweithio ledled Cymru. Eleni, rydym yn gweithio â Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Prifysgol Aberystwyth i gynnal y Colocwiwm.
Bydd digwyddiad cymdeithasol dewisol yn cael ei gynnal gyda’r nos ar 29 Mehefin, gan gynnig rhagor o gyfleoedd i gysylltu â chyd fynychwyr mewn amgylchedd hamddenol.
Teithio a Llety
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi ymrwymo i leihau rhwystrau er mwyn sicrhau y gall ymchwilwyr sy’n byw yng Nghymru gyrchu ein cyfleoedd.
Mae mynychu’r Colocwiwm yn rhad ac am ddim ac mae bwrsariaethau teithio a llety ar gael i gynorthwyo ymchwilwyr sy’n teithio o bellach i ffwrdd. Darperir manylion ynglŷn â sut i wneud cais am gymorth bwrsariaeth wrth gofrestru.
Caiff ymchwilwyr o du allan i sefydliadau addysg uwch hefyd eu hannog i fynychu’r Colocwiwm. Gallai hyn gynnwys y rhai sy’n cynnal ymchwil yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector, yn ogystal ag ymchwilwyr llawrydd ac annibynnol.
Dyddiadau Allweddol
Galwad am Grynodebau (AGOR)
Rydym nawr yn gwahodd cyflwyniadau crynodeb ar gyfer Sgyrsiau Fflach 3 munud a Phosteri Ymchwil.
Rydym yn gwahodd cynigion sy’n unol ag un o Saith Nod Llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:
Rydym hefyd yn annog cynigion sydd â chwmpas rhyngwladol i wneud cais. Os yw eich ymchwil yn cael ei gynnal y tu allan i Gymru, gallwch gyfeirio’n hytrach at 17 Nod Datblygu Cynaliadwyedd yr UE.
Dylai posteri ymchwil fod o faint A0 (84.1x 118.9 cm) a defnyddio cynllun portread.
Rydym yn annog ymgeiswyr i gyflwyno eu hymchwil mewn ffordd greadigol ar gyfer cynulleidfa ryngddisgyblaethol neu anarbenigol.
Canllawiau Cyflwyno
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Colociwm ECR, anfonwch e-bost atom yn researcherdeveloment@lsw.wales.ac.uk