Yr Athro Laurence Williams
OBE FREng FIMechE FNucI FLSW
Sêr Cymru; Athro Mewn Polisïau a Rheoleiddio Niwclear, Prifysgol Bangor.
Mae’r Athro Williams, Athro Polisi a Rheoleiddio Niwclear Sêr Cymru ym Mhrifysgol Bangor, yn cael ei ystyried yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes rheoliadau diogelwch niwclear. Mae wedi dal nifer o swyddi mewn brifysgolion ac wedi cael gyrfa hir yng ngwasanaeth y llywodraeth gan gynnwys bod yn Brif Arolygydd Ei Mawryddi dros Gosodiadau Niwclear, ac mae wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu polisïau a safonau’n gysylltiedig â diogelwch, diogelu a rheoleiddio niwclear yn y DU a thrwy’r byd.