Yr Athro Yvonne McDermott Rees
Athro’r Gyfraith, Prifysgol Queen’s Belfast
Mae Yvonne McDermott Rees yn Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Queen’s, Belfast. Mae Yvonne yn arbenigwraig mewn cyfraith droseddol ryngwladol, cyfraith hawliau dynol ryngwladol, cyfraith tystiolaeth, a chyfraith a thechnoleg, yn arbennig deallusrwydd artiffisial. Mae wedi ysgrifennu/golygu saith llyfr, gan gynnwys Digital Witness (Oxford University Press, 2026, cyd-olygydd gydag Alexa Koenig, Sam Dubberley, a Daragh Murray); Proving International Crimes (Oxford University Press, 2024); Judicial Independence Under Threat (cyd-olygydd gyda Dimitrios Giannoulopoulos), a Fairness in International Criminal Trials (Oxford University Press, 2016), ac mae wedi ysgrifennu dros 70 o erthyglau cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid, adroddiadau, a phenodau mewn llyfrau. Yvonne yw Prif Ymchwilydd prosiect TRUE, sy’n edrych ar effaith ffugiadau dwfn ar ymddiriedaeth mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, o 2022-2027. Mae hefyd yn Brif Ymchwilydd prosiect a ariennir gan UKRI sy’n ystyried effaith sgwrsfotiaid AI ar drais yn erbyn menywod a genethod. Rhwng 2018 a 2021, arweiniodd OSR4Rights, sef prosiect a oedd yn edrych ar y ffyrdd y mae tystiolaeth ffynhonnell agored wedi trawsnewid gwaith canfod ffeithiau hawliau dynol, a enillodd Wobr Dathlu Effaith yr ESRC am Effaith Ryngwladol Eithriadol yn 2024. Yvonne yw Rheolwr Olygydd y Journal of International Criminal Justice ac mae’n un o Feistri Mainc Cymdeithas Anrhydeddus y Deml Fewnol.