Grantiau Gweithdai Ymchwil 2026 - 2027

Dyddiadau Pwysig

9 Medi 2026

Galwad yn Agor

14 Hydref 2026

Galwad yn Cau am 4pm

Erbyn 1 Rhagfyr 2026

Canlyniad

1 Ionawr 2027

Cychwyn y Prosiectau

19 Mawrth 2027

Adroddiad Interim

31 Awst 2027

Adroddiad Terfynol

Rydym nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer Cynllun Grantiau Gweithdai Ymchwil. Ein nod ydy ariannu gweithdai sy’n hyrwyddo cydweithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau, sectorau a sefydliadau, a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol. Yn yr rownd hon, byddwn yn gallu ariannu hyd at 22 o brosiectau ar gyfer sefydliadau yng Nghymru. Bydd gan y rownd hon o geisiadau bedair ffrwd y gall ymchwilwyr wneud cais amdanynt.

  • Astudiaethau Cymru
  • Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar
  • Y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Llwybrau at Heddwch (noddir gan Academi Heddwch Cymru)

Mae hyd at £1000 ar gael ar gyfer pob prosiect. Gall gweithdai o dan ffrwd Llwybrau at Heddwch, sy’n cynnwys partner rhyngwladol, wneud cais am hyd at £2000.

Cyn cyflwyno’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y dogfennau canllaw canlynol yn ofalus:

Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy ein ffurflen ar-lein, trwy’r ddolen isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 14 Hydref 2026 am 4pm. Ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.