Cartoon image of Frances Batty Shand.

Gwobr Frances Batty Shand am Effaith Ymchwil neu Ymarfer Proffesiynol

Amserlen enwebu

1 Mawrth 2027

Ar agor ar gyfer enwebiadau

12.00pm, 1 Mehefin 2027

Dyddiad olaf i enwebu

Mehefin – Gorffennaf 2027

Y Pwyllgor (au) Craffu Medalau a Gwobrau yn adolygu enwebiadau

Medi 2027

Canlyniad y penderfyniad

Hydref / Tachwedd 2027

Seremoni Wobrwyo

Am y Wobr Frances Batty Shand

Noder: bydd y gwobr hon yn cael ei dyfarnu nesaf yn 2027. Bydd enwebiadau’n agor ym mis Mawrth 2027.

Mae’r wobr hon yn cydnabod tîm neu unigolyn y mae eu hymchwil neu eu hymarfer proffesiynol wedi cael effaith sylweddol amlwg tu hwnt i gwmpas eu gwaith neu ddisgyblaeth.

Bydd enillwyr y wobr hon yn dangos cyfraniadau sylweddol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • Ymchwil neu ymarfer proffesiynol sydd wedi cael effaith sylweddol ac amlwg.
  • Newidiadau cadarnhaol sylweddol a dylanwadol tu hwnt i gwmpas eu maes gwaith neu ddisgyblaeth (deallusol, cymdeithasol, economaidd a/neu ddiwylliannol) sy’n digwydd o ganlyniad i’w hymchwil neu ymarfer proffesiynol.
  • Allbynnau nodedig o’u gwaith
  • Unrhyw gyflawniadau nodedig eraill ee arloesedd, prosiectau mawr, trosglwyddo gwybodaeth, dosbarthu eu gwaith, etc.

Ar agor i unigolion neu dimau.

Rwyf wrth fy modd bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi ei gwobr am Effaith Ymchwil neu Ymarfer Proffesiynol ar ôl ein sylfaenydd, Frances Batty Shand. Roedd hi'n arloeswraig ac yn rhywun oedd yn poeni’n fawr am bobl lai ffodus na hi ei hun.

Pwy oedd Francis Batty Shand a pham ei bod yn cael ei chysylltu â’n Gwobrau Effaith Ymchwil neu Ymarfer Proffesiynol

Dyngarwraig ac ymgyrchydd elusennol a sefydlodd Sefydliad y Deillion Caerdydd oedd Frances Batty Shand, gan gynnig swyddi i bobl ddall oedd yn byw yng Nghaerdydd yn y 1880au.  Mae’n parhau i fod yn elusen lwyddiannus hyd heddiw (Sightlife), sydd wedi’i lleoli yn Nhŷ Shand.  Fe’i ganwyd yn Jamaica, yn ferch i berchennog planhigfa a’i ‘wraig tŷ’. Daethpwyd â hi’n ôl i’r Deyrnas Unedig gan ei thad gyda’i brodyr a’i chwiorydd. Yn ddiweddarach symudodd i Gaerdydd, lle cyfrannodd yn sylweddol i fywydau’r bobl oedd yn byw yno.

Dysgwch ragor am Frances Batty Shand yn y Bywgraffiadur Cymreig.

Dros 200 mlynedd ar ôl iddi gael ei geni yn Jamaica, mae buddion yr elusen a sefydlodd Frances Batty Shand ym 1865 yn parhau i gael eu teimlo’n ddyddiol ledled de Cymru. Bob blwyddyn mae Sight Life yn cefnogi mwy na 3,000 o bobl ddall a rhai sydd â golwg rhannol yn uniongyrchol. Yn anochel, dros y blynyddoedd, mae rhai agweddau ar ein gwaith wedi datblygu i adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas. Serch hynny, byddai Frances, y bu ei mam yn gaethes, yn dal i adnabod gwerth ein grwpiau cerdded a chanu yn ogystal â’r holl weithgareddau eraill a gynigiwn mae'n debyg.

Bydd aelodau’r pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi’n fuan.