Yr Athro Angela V. John

Etholwyd: 2012

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Humanities, Arts & Social Sciences

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Hanes

Athro Hanes er Anrhydedd, Prifysgol Aberystwyth.

Roedd yr Athro Angela John yn Athro Hanes ym Mhrifysgol Greenwich am flynyddoedd lawer cyn ymddeol yn gynnar er mwyn dychwelyd i Gymru ac ysgrifennu’n llawn amser. Mae hi wedi cyhoeddi tri llyfr ar ddeg, sy’n cwmpasu astudiaethau o hanes menywod/rhywedd Prydain yn ystod y 19G a’r 20G a nifer o fywgraffiadau, gan gynnwys un Arglwyddes y Rhondda. Ei llyfr diweddaraf yw Behind the Scenes: The Dramatic Lives of Philip Burton (Parthian, 2025). Am rai blynyddoedd bu’n aelod o Gyngor Ymgynghorol yr Arglwydd Ganghellor ar Gofnodion ac Archifau Cenedlaethol.  Mae hi’n Gymrawd o’r Gymdeithas Hanes Frenhinol ac yn Llywydd Llafur, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, sydd hefyd yn rhan o Fenywod Cofebol Cymru sydd wedi bod yn trefnu pum cerflun awyr agored o fenywod ledled Cymru.

yn ôl i'r brig