Professor Gwyn Gould
Athro Bioleg Celloedd, Prifysgol Strathclyde
Mae’r Athro Gould yn arwain labordy ymchwil amlddisgyblaethol sy’n cynnwys gwyddonwyr o feysydd biocemeg, meddygaeth, bioffiseg a dulliau cyfrifiannu. Mae ei ymchwil wedi arwain at fewnwelediadau pwysig i’r modd y mae glwcos yn symud ar draws cellbilenni. Mae ei ffocws ar strwythur a swyddogaeth cludwyr glwcos wedi’i gyfuno â thechnegau delweddu datblygedig. Mae’r rhain gyda’i gilydd o gymorth i ddeall sut mae diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd yn tarfu ar y prosesau cludo hyn.