Ar agor ar gyfer enwebiadau
Dyddiad olaf i enwebu
Y Pwyllgor (au) Craffu Medalau a Gwobrau yn adolygu enwebiadau
Canlyniad y penderfyniad
Seremoni Wobrwyo
Bydd enillwyr y wobr hon yn dangos cyfraniadau sylweddol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:
Ar agor i unigolion neu dimau.
Rwyf wrth fy modd bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi ei gwobr am Effaith Ymchwil neu Ymarfer Proffesiynol ar ôl ein sylfaenydd, Frances Batty Shand. Roedd hi'n arloeswraig ac yn rhywun oedd yn poeni’n fawr am bobl lai ffodus na hi ei hun.
John Sanders, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Sight Life (Sefydliad y Deillion Caerdydd yn ffurfiol)
Dyngarwraig ac ymgyrchydd elusennol a sefydlodd Sefydliad y Deillion Caerdydd oedd Frances Batty Shand, gan gynnig swyddi i bobl ddall oedd yn byw yng Nghaerdydd yn y 1880au. Mae’n parhau i fod yn elusen lwyddiannus hyd heddiw (Sightlife), sydd wedi’i lleoli yn Nhŷ Shand. Fe’i ganwyd yn Jamaica, yn ferch i berchennog planhigfa a’i ‘wraig tŷ’. Daethpwyd â hi’n ôl i’r Deyrnas Unedig gan ei thad gyda’i brodyr a’i chwiorydd. Yn ddiweddarach symudodd i Gaerdydd, lle cyfrannodd yn sylweddol i fywydau’r bobl oedd yn byw yno.
Dysgwch ragor am Frances Batty Shand yn y Bywgraffiadur Cymreig.
Dros 200 mlynedd ar ôl iddi gael ei geni yn Jamaica, mae buddion yr elusen a sefydlodd Frances Batty Shand ym 1865 yn parhau i gael eu teimlo’n ddyddiol ledled de Cymru. Bob blwyddyn mae Sight Life yn cefnogi mwy na 3,000 o bobl ddall a rhai sydd â golwg rhannol yn uniongyrchol. Yn anochel, dros y blynyddoedd, mae rhai agweddau ar ein gwaith wedi datblygu i adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas. Serch hynny, byddai Frances, y bu ei mam yn gaethes, yn dal i adnabod gwerth ein grwpiau cerdded a chanu yn ogystal â’r holl weithgareddau eraill a gynigiwn mae'n debyg.
John Sanders, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Sight Life (Sefydliad y Deillion Caerdydd yn ffurfiol)
Bydd aelodau’r pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi’n fuan.