Ar agor ar gyfer enwebiadau
Dyddiad olaf i enwebu
Y Pwyllgor (au) Craffu Medalau a Gwobrau yn adolygu enwebiadau
Canlyniad y penderfyniad
Seremoni Wobrwyo
Bydd enillwyr y fedal hon yn dangos cyfraniadau sylweddol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:
Ar agor i unigolion yn unig.
Bydd enillwyr yn unigolion sydd ar ganol neu’n ddiweddarach yn eu gyrfa – diffinnir fel rhywun sydd fel arfer, pan gaiff ei enwebu, â mwy na deng mlynedd o brofiad mewn ymchwil neu waith proffesiynol perthnasol. (10 mlynedd neu gyfwerth â 10 mlynedd llawn amser).
Mae bywyd a chyflawniadau Alfred Russel Wallace yn enghreifftiau gwych o sut y gall un person newid y byd er gwell. O wreiddiau gwylaidd, dylai ei natur benderfynol, ei waith caled a’i ddewrder yn hyrwyddo syniadau newydd fod yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom.
William ("Bill") Russel Wallace, Trysorydd Anrhydeddus, The Wallace Memorial Fund, a gor-ŵyr Wallace
Roedd Alfred Russell Wallace yn llawer o bethau – gan gynnwys archwiliwr, casglwr a naturiaethwr. Yn fwyaf enwog, cododd y syniad o esblygiad drwy ddetholiad naturiol yn gwbl annibynnol a thua’r un amser â Charles Darwin. Fe’i ganwyd yn Sir Fynwy, a theithiodd y byd – gan gynnwys Malaysia, Indonesia a’r Amazon, ac arweiniodd hyn ef i fod yn arweinydd arbenigol ar ddosbarthiad daearyddol rhywogaethau.
Dysgwch ragor am Alfred Russel Wallace yn y Bywgraffiadur Cymreig.
Fel un o’r prif gyfranwyr i’r theori esblygiad, mae cyfraniad Wallace i feddylfryd gwyddonol yn adnabyddus. I mi, mae ei chwilfrydedd anniwall a’i ddewrder i archwilio hefyd yn haeddu cydnabyddiaeth, nid yn unig ynysforoedd yr Amazon a Malay, ond hefyd theorïau a syniadau gwyddonol sy'n groes i feddwl sefydledig neu dderbyniol. Nid oedd yn cael ei ddychryn gan rwystrau a thrallod, (prinder arian, llongddrylliad, malaria); nid oedd wedi’i rwymo gan gonfensiwn ac nid oedd ganddo ofn defnyddio’i ddychymyg i archwilio ystod eang o syniadau.
Sue Gillson, Gor-wyres Alfred Russel Wallace
Bydd aelodau’r pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi’n fuan.