Dr Emma McKinley

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Gwyddor gymdeithasol forol, llythrennedd cefnforoedd, ymchwil cefnforoedd, ymgysylltu â rhanddeiliaid

Uwch Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd

Mae Dr McKinley yn wyddonydd cymdeithasol morol profiadol sy’n arwain gwaith ar lythrennedd cefnforoedd a pherthnasoedd rhwng pobl a chefnforoedd. Mae hi’n defnyddio’r mewnwelediadau sy’n deillio o hynny i gefnogi trefniadau llywodraethu cefnforoedd effeithiol. Hi yw arweinydd academaidd Partneriaeth Aber Afon Hafren, sylfaenydd Rhwydwaith Gwyddorau Cymdeithasol y Môr, ac mae hi’n aelod o Bwyllgor Degawd Cenedlaethol y DU ar gyfer Degawd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig, a Grŵp Arbenigwyr IOC-UNESCO ar Lythrennedd Cefnforoedd.

 

yn ôl i'r brig