Dr Emma McKinley
FLSW
Uwch Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd
Mae Dr McKinley yn wyddonydd cymdeithasol morol profiadol sy’n arwain gwaith ar lythrennedd cefnforoedd a pherthnasoedd rhwng pobl a chefnforoedd. Mae hi’n defnyddio’r mewnwelediadau sy’n deillio o hynny i gefnogi trefniadau llywodraethu cefnforoedd effeithiol. Hi yw arweinydd academaidd Partneriaeth Aber Afon Hafren, sylfaenydd Rhwydwaith Gwyddorau Cymdeithasol y Môr, ac mae hi’n aelod o Bwyllgor Degawd Cenedlaethol y DU ar gyfer Degawd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig, a Grŵp Arbenigwyr IOC-UNESCO ar Lythrennedd Cefnforoedd.