Helen Gummett-Preece
Mae Helen yn gwasanaethu fel Swyddog Llywodraethu Cymdeithas Ddysgedig Cymru, lle mae hi’n chwarae rôl bwysig mewn cefnogi’r Clerc, ac yn sicrhau bod pob gofynion llywodraethol, cyfansoddiadol, a gweithdrefnol yn cael eu dilyn. Mae hi’n helpu i gynnal safonau uchel o lywodraethiant, drwy sicrhau bod y corff llywodraethu’n gweithredu’n effeithiol ac yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol yn llawn.
Mae Helen wedi treulio mwy na 16 mlynedd yn y trydydd sector, ac mae hi wedi gweithio gydag amrywiaeth o elusennau amgylcheddol ac iechyd. Fe wnaeth hi hyfforddi’n wreiddiol fel athrawes ysgol gynradd ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae’r sgiliau addysgu cynnar hynny – yn enwedig sgiliau trefnu a chyfathrebu clir – wedi bod yn werthfawr dros ben yn ei gwaith llywodraethiant.
Yn ei hamser sbâr, mae Helen yn mwynhau pobi, crefftio â nodwyddau, archwilio Cymru, a bod yn wasanaeth tacsi ar gyfer ei phlentyn 9 oed!