Joanne Hudson

Mae Joanne yn Gynorthwyydd Gweinyddol y Gymdeithas. Mae hi’n gweithio ar draws y tîm, ac yn cefnogi’r gwaith o reoli ystod eang o weithgareddau, sy’n cynnwys cyfarfodydd, rheoli dyddiaduron a chyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth i’r Prif Weithredwr, y Llywydd, Pennaeth Polisi Cyhoeddus, Pennaeth Cydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Swyddog Cyfathrebu, y Swyddog Digwyddiadau a Gwobrau, a’r Tîm Datblygu Ymchwilwyr.

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae Joanne wedi bod yn gweithio fel academydd mewn prifysgolion yng Nghymru a Lloegr, yn addysgu ac ymchwilio ym maes Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Y tu allan i’r gwaith, mae Joanne yn rhedwr cystadleuol ac yn cynnal sesiynau hyfforddi personol a dosbarthiadau ymarfer corff i oedolion 50+ oed. Mae hi’n mwynhau’r awyr agored, darllen, ac mae hi’n gwirfoddoli yn ei chymuned leol ac i Re-engaged.

yn ôl i'r brig