Dr Laura Jones

Mae Laura’n Swyddog Rhaglen yn y tîm Datblygu Ymchwilwyr yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n cefnogi ystod eang gwaith y tîm gan gynnwys y Rhwydwaith Ymchwilydd Gyrfa Gynnar a chyfathrebiadau cyffredinol. Yn benodol, mae’n cefnogi cynlluniau grant y Gymdeithas gyda chyfathrebu gydag ymgeiswyr a deiliaid grantiau a darparu’r cynlluniau.

Mae gan Laura gefndir mewn ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol ac yn benodol ym meysydd astudiaethau crefyddol a chymunedau Mwslimaidd Prydeinig cyfoes. Cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2022, cyn gweithio ar brosiect ymchwil wedi’i ariannu gan ESRC i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yna Prifysgol Caeredin hyd 2025. Mae Laura’n parhau i ddatblygu ei phortffolio ymchwil yn y maes hwn drwy gyhoeddiadau.

Mae Laura’n siarad Cymraeg yn rhugl ac mae wedi cefnogi digwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer Cymdeithas Ddysgedig Cymru a chwmni cyfryngau Mwslimaidd sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Mae’n hyrwyddo’r Gymraeg ac yn cefnogi mentrau cyfrwng Cymraeg a gweithgareddau yn ei rôl bresennol gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

yn ôl i'r brig