Menna Ellis
Menna yw Swyddog Digwyddiadau a Dyfarniadau’r Gymdeithas. Gan weithio’n agos gyda’r Pennaeth Ecwiti ac Ymgysylltu, mae hi’n trefnu a hwyluso ein digwyddiadau ar lein ac mewn person sy’n seiliedig ar ein Cymrodoriaeth ac yn goruchwylio’r rhaglen Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC.
Yn ei rôl, mae hi hefyd yn cydlynu’n Medalau a Gwobrau CDdC ynghyd â’r Seremoni Wobrwyo tra hefyd yn cefnogi allbwn cyfathrebu’r Gymdeithas.
Cwblhaodd Menna ei gradd israddedig ym Mhrifysgol Reading, cyn ennill MA mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu o Brifysgol Caerdydd.
Dysgodd Menna, sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl, Gymraeg drwy ei haddysg Gymraeg, ac mae hi’n mwynhau’n defnyddio’r iaith yn ei rôl.
Gweithiodd Menna i Sky ar eu cynllun ‘Sky Up Academy Studios on Tour’ yn Rhondda Cynon Taf, a chwblhaodd interniaeth yn seiliedig ar ddigwyddiadau ar safle Amgueddfa Cymru Sain Ffagan, cyn ymuno â ni ddiwedd 2023.
Yn ei hamser rhydd, mae Menna yn mwynhau dosbarthiadau dawnsio tap bob wythnos, ac yn gwirfoddoli yn ei banc bwyd lleol.
Gallwch gysylltu â Menna yn mellis@lsw.wales.ac.uk. Ar gyfer ymholiadau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau, anfonwch e-bost at events@lsw.wales.ac.uk neu medals@lsw.wales.ac.uk am ymholiadau o gwmpas medalau/ gwobrau y Gymdeithas.