Owen Milton

Owen yw ein Swyddog Rhaglenni ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr. Mae’n gweithio gyda Dr Barbara Ibinarriaga Soltero i ddatblygu a chefnogi ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar (ECR). Mae hefyd yn cefnogi mentrau ar gyfer Ymchwilwyr Ganol Gyrfa ac yn cynorthwyo gyda phanelidau adolygu Cynlluniau Grant yr LSW.
Cwblhaodd Owen ei radd israddedig ym Mhrifysgol Birmingham cyn ennill MSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ystod ei astudiaethau ôl-raddedig, cwblhaodd leoliad ymchwil o fewn Grŵp Ymchwil “Human Factors Excellence” Prifysgol Caerdydd (HuFex). Gweithiodd Owen o fewn egni cynaliadwy cyn ymuno â’r Gymdeithas, gan ddarparu cyfathrebiadau strategol am Bryt Energy.
Yn siaradwr Cymraeg rhugl o addysg cyfrwng Cymraeg, mae Owen yn angerddol am yr iaith a’i diwylliant. Mae’n ymroddedig i barhau i ddatblygu ei Gymraeg ac i ddefnyddio’r iaith lle bynnag y bo modd yn ei waith yn y Gymdeithas.
Yn ei amser hamdden, mae Owen yn ddrymwr brwd â phrofiad o wyliau rhyngwladol. Mae hefyd yn ddarllenwr eiddgar, yn hoff fawr iawn o goffi, ac yn gefnogwr brwd o gymuned cerddoriaeth fyw Caerdydd.

yn ôl i'r brig