Yr Athro Adam Hedgecoe

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Humanities, Arts & Social Sciences

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Cymdeithaseg gwyddoniaeth a meddygaeth

Athro a Chyfarwyddwr WISERD, Prifysgol Caerdydd

Mae ymchwil yr Athro Hedgecoe yn archwilio’r modd y mae biofeddygaeth fodern wedi’i siapio’n gymdeithasol. Ers deng mlynedd ar hugain, mae e wedi archwilio rôl geneteg glinigol mewn penderfyniadau meddygol. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut mae profion genetig siapio ffiniau clefydau, heriau’n gysylltiedig â meddygaeth wedi’i phersonoli, a’r cymhlethdodau sy’n codi yn sgil technegau dilyniannu genomau modern. Mae ei waith ar reoleiddio ymchwil fiofeddygol, a’r ffordd mae pwyllgorau moeseg ymchwil yn llunio canfyddiadau o’r hyn sy’n foesegol a’r hyn nad yw’n foesegol, yn gysylltiedig â hyn.

 

yn ôl i'r brig