Agnes Xavier-Phillips
Meistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru a Dirprwy Arglwydd Raglaw Gwent
Mae Agnes Xavier-Phillips yn nyrs ac yn gyfreithiwr cymwysedig. Bu’n astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio fel Cwnsler Cyffredinol a Rheolwr Perthnasoedd Cleientiaid GE Capital. Bu’n cynrychioli’r diwydiant gwasanaethau ariannol hefyd yn Niwygiadau Woolf, a adolygodd system cyfiawnder sifil y DU ar ddiwedd y 1990au. Mae hi bellach yn Feistr ar Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a hefyd yn Ryddfreiniwr Dinas Llundain, ac yn Lifreiwr-Gyfreithiwr yn Llundain. Mae hi hefyd yn eistedd ar Gyngor Prifysgol Caerdydd ac ar fyrddau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Dŵr Cymru.