Yr Athro Åke Fagereng

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: a mecaneg creigiau, Daeareg, tectoneg

Athro mewn Daeareg Strwythurol, Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Fagereng wedi gwneud cyfraniadau pwysig at ddeall anffurfiad creigiau, yn enwedig y prosesau a’r amodau sy’n bodoli ar ffiniau platiau’r Ddaear. Mae’n fwyaf adnabyddus am gyfyngu ar reolaethau daearegol ac am ystyried a yw ffawtiau’n ymgripio’n aseismig neu’n cynhyrchu daeargrynfeydd mawr. Mae’n cynnal ei ymchwil drwy ymchwiliadau rhyngddisgyblaethol gan ddefnyddio daeareg maes, microsgopeg electron, a dulliau geocemegol a geoffisegol. Mae’n cymhwyso’r wybodaeth hon i ddeall peryglon naturiol.

 

yn ôl i'r brig