Professor Alan Fraser

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Cardiolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Athro Emeritws Cardioleg, Prifysgol Caerdydd

Arbenigedd yr Athro Fraser yw delweddu’r galon ddynol a’i gwythiennau drwy ddefnyddio technoleg uwchsain (ecocardiograffeg). Mae’r prosiectau mawr y mae wedi cymryd rhan ynddynt yn cynnwys canfod clefyd cyhyr y galon yn fuan; deall mecanweithiau methiant y galon; darparu tystiolaeth anfewnwthiol o glefyd rhydwelïau coronaidd; ymchwilio i’r rhyngweithio rhwng y galon a’r rhydwelïau mawr; ac astudio canlyniadau hirdymor ar ôl llawdriniaeth i osod falf newydd yn y galon. Mae’r Athro Fraser wedi canolbwyntio’n ddiweddar ar ddyfeisiadau meddygol risg uchel y gellir eu mewnblannu, gan ddarparu tystiolaeth i reoleiddwyr yn yr Undeb Ewropeaidd.

 

yn ôl i'r brig