Yr Athro Giles Davies
Athro mewn Peirianneg Electronig a Ffotonig, a Dirprwy Ddeon Gweithredol (y Gyfadran Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol), Prifysgol Leeds
Mae ymbelydredd amledd terahertz mewn safle diddorol ar y sbectrwm electromagnetig, ar y rhyngwyneb rhwng electroneg ac opteg. Fodd bynnag, ceir heriau parhaus sy’n atal mynediad at yr agwedd hon, ac iddi gyfoeth o wyddoniaeth, ac yn atal y gallu i fanteisio arni. Mae’r Athro Davies wedi gwneud cyfraniadau rhagorol at ddatblygiad y laser rhaeadr cwantwm terahertz, ac wedi arloesi o ran datblygiadau mewn delweddu terahertz, sbectrosgopeg a microsgopeg. Mae ei waith wedi agor y rhan hon o’r sbectrwm fel bo modd ymchwilio iddi a manteisio arni, ac wedi tanategu twf anhygoel y maes ar raddfa ryngwladol.