Dr Amanda Collis
Cyfarwyddwr Gweithredol – Strategaeth a Rhaglenni Ymchwil, UK Research and Innovation – Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol
Ffocws gwaith Amanda Collis yw strategaeth, polisi a chyllid ymchwil. Mae hi’n ymroddedig i hyrwyddo ‘biowyddoniaeth darganfod’, ymchwil rhyngddisgyblaethol, a rhaglenni strategol ar draws ystod eang o bynciau, o amaethyddiaeth hyd at filhaint. Mae hi’n frwd dros bartneriaethau rhyngwladol, gan weithio ar draws diwylliannau amrywiol er mwyn creu cyfleoedd i academyddion y DU gael gweithio gyda chymheiriaid o bob cwr o’r byd. Mae ei rolau arweinyddol yn Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), Labordy Bioleg Moleciwlaidd Ewrop a’r Sefydliad dros Gydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn ei gwneud hi’n ffigur dylanwadol ym maes ymchwil ac arloesi.