Yr Athro Andrew Linklater

Etholwyd: 2010 Cymrodyr Cychwynnol

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Humanities, Arts & Social Sciences

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Gwleidyddiaeth

Athro Woodrow Wilson mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth; yn flaenorol: Athro Cyswllt, Prifysgol Monash; Athro, Prifysgol Keele

Ganwyd yr Athro Linklater yn Aberdeen,  ac ar ôl treulio amser yn Awstralia ac ym Mhrifysgol Keele, daeth yn 10fed Athro Woodrow Wilson mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2000.

Fe wnaeth ei lyfr Transformation of Political Community, a gafodd ei gyhoeddi ym 1998, bledio’r achos dros gymunedau gwleidyddol yn cael eu llywodraethu gan ddeialog a chaniatâd, yn hytrach na phŵer a grym. Yn fwy diweddar, ysgrifennodd yn helaeth ar y syniad o ‘wareiddiad’, trwy waith Norbert Elias, a’i effaith ar gysylltiadau rhyngwladol, a sut mae gwladwriaethau’n cael eu ffurfio.

yn ôl i'r brig