Professor Angela Mihai
FIMA FLSW
Athro Mathemateg Gymhwysol, Prifysgol Caerdydd
Mae diddordebau ymchwil eang yr Athro Mihai mewn mathemateg gymhwysol a chyfrifiannol yn y rhyngwyneb â’r gwyddorau ffisegol a naturiol. Mae ei phrif gyfraniadau gwyddonol mewn mecaneg solet sylfaenol a’r ddealltwriaeth fathemategol o ddeunyddiau meddal, gan gynnwys meinwe biolegol a mater meddal. Hi yw awdur y monograff ymchwil Stochastic Elasticity (Springer, 2022).