Professor Anthony Harrington

Etholwyd: 2014

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Cyfarwyddwr yr Amgylchedd Dwr Cymru / Welsh Water

Ysgrif goffa: Yr Athro Anthony Harrington (1962 – 2024)

Gyda chalon drom y cyhoedda Cymdeithas Ddysgedig Cymru y bu farw Anthony (Tony) Harrington ym mis Rhagfyr 2024. Ac yntau’n arweinydd amgylchedd uchel ei barch, ac yn Gyfarwyddwr yr Amgylchedd yn Dŵr Cymru Welsh Water yn fwyaf diweddar, mae gyrfa ddisglair yr Athro Harrington yn y diwydiant dŵr yn gadael gwaddol parhaus ar draws y diwydiant, academia a pholisi amgylchedd.

Graddiodd Tony gyda BSc (Cyd-anrhydedd) mewn Eigioneg a Gwyddoniaeth Pridd o Brifysgol Bangor (1983), cyn ennill MPhil mewn Hydroleg Arfordirol o Brifysgol Brighton (1985), a Diploma mewn cyfraith Amgylcheddol o Brifysgol Plymouth (1993), a MBA o Ysgol Fusnes Weithredol Prifysgol Leeds (2006). Roedd yn Beiriannydd Siartredig (1991), yn Wyddonydd Siartredig (2004), yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd (1986), yn Aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, a chafodd ei ethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2014.

Roedd ei daith broffesiynol yn cynnwys caffael profiad mewn amrywiaeth eang o swyddi amgylcheddol, yn y diwydiant (e.e. South West Water, Yorkshire Water a Dŵr Cymru), ac asiantaethau llywodraeth (e.e. UKWIR ac Asiantaeth Ymchwil Bwyd a’r Amgylchedd).

Pan ymunodd Tony â Dŵr Cymru yn 2011 fel Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, daeth yn fuan i fod yn ffigwr canolog o ran llywio strategaeth amgylcheddol hirdymor y cwmni. Hyrwyddodd arloesedd a arweinwyd gan ymchwil, cefnogodd gydweithrediad traws-sector, a helpodd i symud gwaith hanfodol yn ei flaen ar wydnwch hinsawdd, ansawdd dŵr, a rheoli dŵr gwastraff. Roedd ei arweinyddiaeth yn ymestyn y tu hwnt i’r sefydliad drwy rolau bwrdd mewn rhwydweithiau ymchwil sylweddol, yn cynnwys UKWIR, a thrwy ei bartneriaethau dylanwadol gydag academia. Mewn sgwrs ddiweddar am Tony, ysgrifennodd Steve Wilson (Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaeth Dŵr Gwastraff, Cwsmeriaid Busnes ac Ynni Dŵr Cymru): “Rydym yn hiraethu amdano yn Dŵr Cymru, ac yn yr amseroedd anodd hyn ynghylch hyder yn y sector dŵr, rheoliad a chyflwr yr amgylchedd, rydym yn colli ei angerdd i ymgysylltu yn y ddadl gyda’r cyhoedd, gwleidyddion, academyddion a rheoleiddwyr i geisio darparu sector dŵr cynaliadwy i Gymru a’r DU.”

Yn 2016, penodwyd Tony fel Athro Anrhydeddus yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd mewn cydnabyddiaeth o’i gefnogaeth hirsefydlog gyda’r Sefydliad Ymchwil Dŵr a’i gyfraniadau i gyfnewid gwybodaeth am ymchwil. O safbwynt personol, cafwyd cefnogaeth gref gan Tony i’n gwaith yng Nghanolfan Ymchwil Hydro-amgylcheddol Ysgol Peirianneg Caerdydd a’n cydweithrediad â Chanolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd (dan arweiniad yr Athro David Kay, FLSW) yn Aberystwyth, lle cyhoeddodd ein dwy ganolfan ymchwil yn rhyngwladol ar ein canfyddiadau ymchwil ar fonitro, dadansoddi a modelu prosesau hydro-facteriolegol, yn cynnwys prosesau hydroddeinamig, ysgarthol a maethol.

Y tu hwnt i’w gyflawniadau proffesiynol, roedd Cymru a’i hamgylchedd naturiol yn hynod o bwysig i Tony. Roedd ei waith yn adlewyrchu’r gred y dylai gwasanaethau hanfodol gael eu darparu nid yn unig yn effeithlon, ond hefyd yn foesegol ac yn gynaliadwy, er budd cenedlaethau’r dyfodol. Roedd rhwyfo a rygbi Cymru ymhlith ei ddiddordebau personol.

I gydnabod ei gyfraniad eithriadol i arloesedd a chynnydd amgylcheddol, mae Dŵr Cymru wedi mynd ati i greu Gwobr Tony Harrington, sy’n dathlu ymchwil arloesol gan fyfyrwyr PhD a MSc y mae eu gwaith yn llywio dyfodol y sector dŵr.

Caiff Tony ei gofio â pharch ac anwyldeb gan ei wraig Ross, ei ferched Emily a Sophie, ei ffrindiau, ei gydweithwyr a’r cymunedau lu y mae eu llesiant a’u hamgylchedd wedi’u cyfoethogi gan waith ei fywyd. Mae ei waddol yn parhau yn y polisïau a luniodd, y bobl y bu’n eu mentora a’r gwelliannau amgylcheddol y bu’n eu hyrwyddo’n ddiflino.

Darparwyd gan yr Athro Roger Falconer (Athro Emeritws Prifysgol Caerdydd)

yn ôl i'r brig