Yr Athro Apala Majumdar

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: dadansoddi cymhwysol, Mathemateg gymhwysol, mathemateg ryngddisgyblaethol, mecaneg continwwm, modelu mathemategol

Athro Mathemateg Gymhwysol, Prifysgol Manceinion

Mae’r Athro Majumdar yn arbenigwr ym mathemateg gwyddor deunyddiau, gan arbenigo mewn mecaneg continwwm a dadansoddi cymhwysol. Mae hi wedi gwneud cyfraniadau grymus i fathemateg crisialau hylif, ei sail drylwyr, a modelu cymwysiadau crisial hylif a mater meddal. Mae hi wedi arwain rhwydweithiau ymchwil rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol, gyda chydweithwyr ar draws pedwar cyfandir. Yn ogystal, mae’n eiriolwr brwd dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ac mae wedi arwain mentrau EDI cenedlaethol a rhyngwladol.

 

yn ôl i'r brig