Professor Arthur Lees
Athro Emeritws, Prifysgol Abertawe
Mae’r Athro Lees wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn y diwydiant ynni. Mae’n defnyddio modelau mathemategol a pheirianyddol i ddatrys problemau sy’n effeithio ar orsafoedd pŵer, gan gynnwys deinameg gerau ac ymddygiad gwrthrychau sy’n troelli. Yn gynnar yn ei yrfa, un o’i gyflawniadau mwyaf arwyddocaol oedd cynnal dadansoddiad newydd o wallau gêr. Arweiniodd hyn at ddatrys diffyg a oedd wedi bodoli ers tro ar y pwmp porthiant mewn un orsaf bŵer, gan gynyddu argaeledd ei ddefnydd o 13% i 85%. Parhaodd yr addasiad hwn i gael ei ddefnyddio nes i’r orsaf gau 45 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r un syniadau wedi’u cymhwyso i orsafoedd pŵer eraill.