Dr Arwyn Edwards
Reader in Biosciences, Prifysgol Aberystwyth and Yr Athro II, University Centre in Svalbard (UNIS), Longyearbyen, Norway
Darllenydd yn y Biowyddorau, Prifysgol Aberystwyth a’r Athro II, Canolfan y Brifysgol yn Svalbard (UNIS), Longyearbyen, Norwy
Mae Dr Edwards yn ficrobiolegydd amgylcheddol blaenllaw sy’n gweithio ar amrywiaeth, dosbarthiad daearyddol, ac effaith micro-organebau dros raddfeydd amser esblygol. Ei waith ef oedd y gwaith cyntaf i ddefnyddio dulliau genomig i archwilio ecosystemau rhewlif a allai fod mewn perygl, nad oeddent wedi cael eu hastudio rhyw lawer cyn hynny. Mae’n frodor o Geredigion, ac wedi bod ar fwy na deugain o alldeithiau ymchwil i’r rhanbarthau pegynol. Cyfrannodd yn sylweddol hefyd at yr ymateb brys i COVID-19 yn lleol, ac ar ran Llywodraeth Cymru.