Ben Lewis
FLSW
Cyfarwyddwr Prifysgol Agored yng Nghymru
Mae Ben Lewis wedi gweithio mewn rolau polisi, rheoli ac arweinyddiaeth i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), y Comisiwn Etholiadol, Prifysgol Caerdydd a’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Bu hefyd yn Gadeirydd ei gorff cynrychioliadol proffesiynol, ac aeth ar secondiad i Lywodraeth Cymru fel cynghorydd polisi arbenigol. Mae ei ffocws wedi bod ar gynhwysiant cymdeithasol a chyfranogiad mewn addysg uwch, cymorth i fyfyrwyr, ac iechyd meddwl.