Professor Caroline Lear
Deon Ymchwil ac Arloesi, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Prifysgol Caerdydd
Mae Carrie Lear yn Athro Hinsoddau’r Gorffennol a Newidiadau i Systemau’r Ddaear. Mae hi wedi datblygu technegau geocemegol newydd i fesur newidiadau hinsawdd y gorffennol, ac wedi cymhwyso’r rhain i ddatgelu mewnwelediadau i system hinsoddau’r Ddaear. Sefydlodd a chadeiriodd yr Athro Lear Gymdeithas Paleohinsawdd y DU ac mae wedi derbyn Medal Bigsby gan Gymdeithas Ddaearegol Llundain, a Gwobr Philip Leverhulme. Hi yw Deon Ymchwil ac Arloesi Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd.