Professor Chris Greenwell

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Athro Geocemeg, Prifysgol Durham ac Uwch Gynghorydd Gwyddonol, X-Ray Mineral Services Ltd, Conwy

Mae ymchwil yr Athro Greenwell yn ceisio deall y rhyngweithiadau rhwng mwynau haenog, fel mwynau clai a deunyddiau cysylltiedig, a moleciwlau organig, gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau cyfrifiannol ac arbrofol. Mae’r gwaith hwn yn trafod ystod eang o gymwysiadau, gan gynnwys lliniaru llygredd, deall cylchoedd geocemegol, deunyddiau a chatalyddion newydd, a deall tarddiad bywyd ar y Ddaear.

 

yn ôl i'r brig