Professor Chris Hopkins
Pennaeth y Sefydliad Tritech ac Arloesedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Tachwedd 2025: Comisiwn Cenedlaethol y DU ar Reoleiddio AI mewn Gofal Iechyd
Cafodd yr Athro Chris Hopkins FLSW ei wahodd i gyfrannu ei arbenigedd i Gomisiwn Cenedlaethol y DU ar Reoleiddio AI mewn Gofal Iechyd.
Sefydlwyd y Comisiwn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, ac mae’n cael ei arwain gan yr Athro. Alastair Denniston a’r Athro. Henrietta Hughes. Mae’n dod â phrif leisiau o’r meysydd iechyd, technoleg, rheoleiddio a’r byd academaidd at ei gilydd, i helpu i siapio llwybr dibynadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer mabwysiadu’r defnydd o AI ar draws y GIG.
Mae’r Athro Hopkin yn Bennaeth y Sefydliad TriTech, yn Gyfarwyddwr Clinigol ATiC ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac yn Ddirprwy Gadeirydd panel asesu Technoleg Iechyd Cymru. Mae’n cyflwyno ffocws cryf ar sut y gall tystiolaeth gadarn gefnogi cyflwyno AI mewn ymarfer clinigol yn ddiogel, yn effeithiol ac yn deg
Mae gwaith eang yr Athro Hopkins yn cynnwys asesu ansawdd a chywirdeb profion a gweithdrefnau diagnostig, a gwerthuso technolegau, gwasanaethau a phrosesau meddygol. Mae’n Wyddonydd Siartredig ac yn Beiriannydd Siartredig, ac yn dal cymrodoriaethau gan yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd a’r Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth. Mae Chris yn aelod o bwyllgor cynghori arbenigol yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ac yn aelod o banel arfarnu Technoleg Iechyd Cymru. Dyfarnwyd y Wobr Rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesi mewn Gwyddor Gofal Iechyd iddo yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd 2022 Prif Swyddog Gwyddonol GIG Lloegr.