Christopher Catling
MA, FSA, MCIFA, FLSW
Prif Weithredwr, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Christopher Catling yw Prif Weithredwr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ers 2014; mae’n ymgyrchu dros hawl cymunedau i barhau i ddefnyddio mannau addoli yng Nghymru; mae’n ymchwilio i fudd pererindota o safbwynt iechyd a’r economi; mae wedi ysgrifennu arweinlyfrau hynod boblogaidd i deithwyr sy’n canolbwyntio ar gyrchfannau diwylliannol; ef yw cyfarwyddwr Cronfa Marc Fitch; cyfarwyddwr sefydlu’r Gynghrair Treftadaeth yn Lloegr; a sylwebydd hyddysg ar faterion treftadaeth a chadwraeth.