Yr Athro Cinzia Giannetti
EngD, FHEA, FLSW
Athro mewn Gweithgynhyrchu Digidol, Prifysgol Abertawe
Mae’r Athro Giannetti wedi bod yn Gymrawd UKRI EPSRC (2018–2021), wedi sicrhau cyllid ymchwil sylweddol, ac wedi arwain mentrau mawr yn y DU sy’n hyrwyddo digideiddio wedi’i yrru gan AI. Mae ei gwaith arloesol ar gymhwyso deallusrwydd artiffisial i weithgynhyrchu wedi gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd prosesau diwydiannol ar draws sawl sector. Mae hi hefyd yn cyfrannu at gyrff cynghori cenedlaethol, gan gynnwys Tîm Cynghori Strategol EPSRC a grŵp llywio Rhwydwaith Arloesi Cymru.