Claire Curneen
FLSW
Celfyddydwr; Uwch Ddarlithydd, Phrifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae Claire Curneen yn creu cerfluniau ffigurol sy’n cynnig myfyrdod teimladwy ar ddynoliaeth. Mae themâu cyffredinol fel colled, dioddefaint, aberth ac aileni yn sail i’w gweithiau; wedi’u hadeiladu â llaw mewn porslen gwyn, mae natur dryloyw a bregus ei gweithiau yn fetafforau o’r cyflwr a’r profiad dynol. Ganed Curneen yn Iwerddon, ac aeth i astudio i Gorc, Belffast a Chaerdydd, lle mae hi bellach yn byw ac yn gweithio. Mae ei gweithiau wedi cael eu harddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ac Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain.