Dr Claire Price

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Cyfathrebu mewn modd cynhwysol am y gwyddorau biofeddygol

Uwch-ddarlithydd mewn Gwyddorau Biofeddygol, Prifysgol Abertawe

Dr Claire Price yw sylfaenydd Gŵyl Wyddoniaeth Merthyr. Mae ei gwaith yn cyfuno ymchwil, addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd, gyda ffocws ar gyfathrebu mewn modd cynhwysol am wyddoniaeth. Mae hi’n datblygu offer arloesol, fel modelau cyffyrddol wedi’u hargraffu mewn 3D ac adnoddau digidol rhyngweithiol. Mae’r rhain o gymorth i wneud gwyddoniaeth yn hygyrch i gynulleidfaoedd amrywiol. Mae hi wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol am ei gwaith allgymorth ac mae hi’n cyfrannu’n eang at addysg STEMM yng Nghymru.

 

yn ôl i'r brig