Yr Athro Colin Berry

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Biocemeg proteinau pryfleiddiol

Athro Emeritws mewn Biocemeg, Prifysgol Caerdydd

Yn ei waith, mae’r Athro Berry wedi canolbwyntio ar ddatblygu targedau cyffuriau, a biocemeg rheoli pryfed drwy ddefnyddio bacteria lladd pryfed a’r proteinau lladd pryfed cryf y maent yn eu cynhyrchu. Mae wedi datblygu dulliau profi ensymau newydd ac wedi astudio targedau cyffuriau mewn clefydau firaol a pharasitig. Mae’n arbenigwr ar strwythur a swyddogaeth proteinau pryfleiddiol ac yn gydlynydd y Ganolfan Adnoddau Protein Pryfleiddiol Bacteriol, y system a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer dosbarthu a chatalogio’r proteinau hyn.

 

yn ôl i'r brig