Yr Athro D. Dafydd Jones

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Biocemeg, Bioffiseg, bioleg gemegol

Cadair mewn Biocemeg, Prifysgol Caerdydd

Ar ôl cael ei eni, ei fagu a’i addysgu yng Nghymoedd De Cymru, enillodd yr Athro Jones ysgoloriaeth i astudio biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod blwyddyn ar leoliad yn UDA, cadarnhawyd ei frwdfrydedd dros strwythur a pheirianneg proteinau. Aeth i Gaergrawnt i astudio am Ddoethuriaeth gyda’r Athro Richard Perham yn yr Adran Biocemeg. Ar ôl cyfnod yn y sector biotechnoleg, cafodd swydd ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae’n parhau i ddatblygu dulliau newydd o beiriannu proteinau.

 

yn ôl i'r brig