Yr Athro Daniel Parsons

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: arweinyddiaeth addysg uwch, Daearwyddoniaeth, ymchwil

Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesi ac Athro Gwyddorau Daear, Prifysgol Loughborough

Mae’r Athro Parsons yn ddaearwyddonydd blaenllaw yn y byd sy’n arbenigo mewn systemau gwaddodol ac effeithiau’r newid hinsawdd. Mae ei ymchwil yn cwmpasu amgylcheddau afonol i foroedd dwfn, gan ganolbwyntio ar risg llifogydd, cynaliadwyedd, a newid i’r amgylchedd naturiol a achosir gan weithredoedd dynol (‘aflonyddwch anthropogenig’). Mae wedi arwain ymchwil wedi’i hariannu gwerth dros £50 miliwn, wedi siapio polisi cenedlaethol a rhyngwladol ar ymaddasu i’r newid hinsawdd, ac wedi hyrwyddo ymgysylltu â’r cyhoedd. Fel Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Loughborough, mae’n ysgogi cydweithio strategol ar draws Canolbarth Lloegr, yn hyrwyddo arloesi amgylcheddol, ac yn annog ymchwil ryngddisgyblaethol er budd cymdeithas.

 

yn ôl i'r brig