Professor Deborah Kays
Pennaeth yr Ysgol ac Athro Cemeg Anorganig, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Kays yn ymchwilio i fathau o gyfansoddion cemegol sydd â phriodweddau electronig newydd ac sy’n adweithiol iawn. Mae defnyddio’r bondiau a’r cadwyni cemegol hyn wedi arwain at greu cynhyrchion newydd, dulliau catalyddu, a mecanweithiau sy’n defnyddio metelau a geir yn helaeth yn y ddaear. Mae ei gwaith wedi cyfrannu at ddatblygiadau mewn catalyddu, prosesau cemegol sy’n lleiafu effeithiau amgylcheddol, magnetedd a storio ynni.