Professor Delyth James

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Fferylliaeth

Athro mewn Fferylliaeth a Meddygaeth Ymddygiadol, Prifysgol Abertawe ac Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth, Cardiff Metropolitan University

Fel fferyllydd cofrestredig, mae’r Athro James yn defnyddio damcaniaethau seicolegol i fynd i’r afael â phroblemau’n gysylltiedig â’r modd y bydd pobl yn defnyddio meddyginiaethau. Mae ganddi hanes o arwain ymchwil ac addysgu sy’n llywio polisi, ymarfer a darpariaeth gwasanaeth ym maes fferylliaeth Mae hi hefyd yn awdurdod blaenllaw yn y byd ar ddatblygu sgiliau ymgynghori pobl sy’n gweithio mewn fferylliaeth. Mae’r Athro James wedi trawsnewid ymarfer clinigol drwy ddatblygu fframwaith wedi’i ddilysu i gefnogi ymgyngoriadau sy’n ymwneud â meddyginiaethau. Defnyddiwyd y fframwaith i hyfforddi 28,000 o fferyllwyr yng Nghymru a Lloegr.

 

yn ôl i'r brig