Professor Edward Witten

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd:

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Mae Edward Witten wedi cyfrannu’n fawr at ffiseg gyfoes, yn cynnwys damcaniaeth maes cwantwm topolegol ac uwchgymesur, damcaniaeth llinyn, damcaniaeth-M, damcaniaeth gwybodaeth cwantwm a disgyrchiant cwantwm.

Ef yw’r unig ffisegydd i dderbyn y Fedal Fields, sydd gyfwerth â’r Wobr Nobel ym maes mathemateg.

Ym 1998, darganfu Witten fformiwleiddiad tri dimensiwn o gwlwm polynomial Syr Vaughan Jones o ddamcaniaeth maes cwantwm tri dimensiwn, gan ddatblygu damcaniaethau maes cwantwm tri dimensiwn a datrys problem a gyflwynwyd gan Syr Michael Atiyah. Cyflwynwyd hyn yn y Gyngres Ffiseg Fathemategol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Taliesin, Abertawe, y bore wedi iddo gael swper gydag Atiyah ac eraill ym Mwyty Annie’s, lle lluniwyd ei syniadau, ac a ddaeth yn llên gwerin.

Mae Witten yn Athro Emeritws yn yr Institute of Advanced Study yn Princeton.

Mae ei wobrau lu yn cynnwys Gwobr a Medal Dirac (1985), Medal Fields (1990), Gwobr Crafoord mewn Mathemateg (2008), Medal Isaac Newton y Sefydliad Ffiseg (2010), Gwobr Kyoto (2014), Cymrawd Academi Celfyddydau a Gwyddorau America (1984), Academi Wyddorau Genedlaethol UDA (1988), Aelod Tramor y Gymdeithas Frenhinol (1999), Academi Gwyddorau Paris (2000), Academi Archesgobol y Gwyddorau (2006), Cymrawd er Anrhydedd Cymdeithas Frenhinol Caeredin (2016), Aelod Anrhydeddus Cymdeithas Fathemategol Llundain (2019).

 

yn ôl i'r brig